Mae Cymdeithas Eryri’n recriwtio

Swyddog Prosiect Cymdeithas Eryri
Rhan amser – 3 ddiwrnod yr wythnos* 
Contract tymor sefydlog 3 blynedd
Cyflog £16,750 pro rata

CEFNDIR

Mae Cymdeithas Eryri yn elusen cadwraeth sy’n gweithio’n galed i warchod a gwella Eryri.  Bydd y Gymdeithas yn gwneud gwaith cadwraeth ymarferol ac yn ymgyrchu i amddiffyn rhinweddau arbennig yr ardal, ac mae’n berchen ar Tŷ Hyll, adeilad eiconaidd sydd â gardd bywyd gwyllt a choetir hyfryd.

Mae’r Gymdeithas yn rhedeg rhaglen gwirfoddoli cadwraeth sylweddol.   Bydd ein gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed i ofalu am fannau arbennig a chynefinoedd bywyd gwyllt ledled Eryri.  Yn ogystal â diwrnodau gwaith gwirfoddol, rydym ni hefyd yn cynnig rhaglen helaeth o weithgareddau hyfforddiant sy’n berthnasol i rinweddau arbennig Eryri.

Rydym ni wrthi’n recriwtio Swyddog Prosiect i ymuno â’n tîm a chydweithio â’n Swyddog Prosiect presennol a Rheolwr y Prosiect i ddatblygu’r prosiect.   Bydd deiliad y swydd yn cymryd cyfrifoldeb beunyddiol am amrywiaeth o ddiwrnodau gwaith cadwraeth a gweithgareddau hyfforddiant, a bydd yn:

  • recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr
  • datblygu a darparu cyfleoedd i wirfoddoli
  • datblygu a darparu cyfleoedd hyfforddiant
  • cynnal perthnasoedd rhagorol â phartneriaid presennol a datblygu rhai newydd

Mae gweithgareddau cadwraeth ymarferol yn cynnwys rheoli cynefinoedd, gwaith cynnal a chadw llwybrau, casglu sbwriel a brwydro rhywogaethau ymledol.

Mae’r gweithgareddau hyfforddiant yn amrywiol ac maent yn cynnwys ein hyfforddiant achrededig mewnol ar gyfer gwirfoddolwyr. Ar hyn o bryd, rydym ni’n cynnig uned o’r enw Sgiliau Cadwraeth Ymarferol a achredir gan Agored Cymru.   Bydd deiliad y swydd yn cymryd cyfrifoldeb am arwain sesiynau hyfforddiant a diwrnodau gwaith cyfranogwyr, a bydd yn gyfrifol am asesu gwaith cyfranogwyr yn y maes ac yng ngweithlyfrau’r cwrs.   Darperir hyfforddiant llawn ynghylch asesu hyfforddeion.

Mae holl staff Cymdeithas Eryri yn rhan o dîm.   Byddant yn cyfrannu mewn sawl ffordd at waith ehangach yr elusen ac at y dasg allweddol o recriwtio aelodau a gwirfoddolwyr newydd.

Mae’r swydd hon yn swydd ran amser, 22.5 awr yr wythnos. Bydd angen hyblygrwydd o ran diwrnodau gwaith. Bydd angen gweithio ar benwythnosau a gyda’r hwyr, a chaniateir amser o’r gwaith yn lle hynny.

*I ymgeiswyr sydd â’r sgiliau a’r profiad gofynnol, bydd cyfle ychwanegol i gymryd cyfrifoldeb am waith garddio er budd bywyd gwyllt yn Tŷ Hyll.  Byddai hynny’n golygu gweithio nifer fechan o oriau rheolaidd ychwanegol bob wythnos.

MANYLEB PERSON

Hanfodol:

  • Profiad o gynllunio a chynnal diwrnodau gwaith cadwraeth ymarferol
  • Profiad o weinyddu digwyddiadau ymarferol, yn cynnwys cyhoeddusrwydd, archebion, cyfieithiadau, cofnodion Iechyd a Diogelwch, ac asesu risgiau
  •  Gwybodaeth ymarferol am reoli cefn gwlad a gwarchod natur
  • Profiad o gydweithio ag amrywiaeth o wirfoddolwyr a’u cymell
  • Profiad o gydweithio a chysylltu â sefydliadau eraill
  • Cryf ei gymhelliant ac yn gallu datrys problemau
  • Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg a Saesneg
  • Gallu defnyddio Word, Excel a PowerPoint yn fedrus, a diweddaru gwefannau a chyfryngau cymdeithasol.
  • Trwydded yrru gyfredol, ei gerbyd ei hun, ac yswiriant defnydd busnes – bydd y gwaith yn digwydd ar draws Eryri a bydd angen cludo offer llaw i leoliadau’r gwaith. Ad-delir milltiredd ac eithrio am deithio i’r swyddfa.
  • Brwdfrydedd dros gadwraeth a gwybodaeth am y cynefinoedd a’r bywyd gwyllt sydd i’w canfod yn Eryri.

Dymunol:

  • Profiad o reoli darpariaeth dysgu neu hyfforddiant achrededig
  • Profiad o godi arian a recriwtio aelodau mewn sefydliad dielw;
  • Profiad o arddio er budd bywyd gwyllt a brwdfrydedd dros hynny – yn cynnwys sgiliau adnabod bywyd gwyllt da a gwybodaeth ymarferol ynghylch sut i reoli a chynnal gardd sy’n fuddiol i fywyd gwyllt.
  • Profiad o baratoi a gweithredu cynlluniau rheoli coetiroedd syml

DISGRIFIAD SWYDD

Swydd: Swyddog Prosiect

Oriau Gwaith: 22.5 awr (3 diwrnod) yr wythnos

Prif Gyfrifoldebau:

  • Nodi a datblygu cyfleoedd am ddiwrnodau gwaith a’u gweithgareddau.
  • Cydlynu ar y cyd â staff eraill i lunio rhaglenni gweithgarwch a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt.
  • Trafod â phartneriaid i sicrhau fod y diwrnodau gwaith a’r digwyddiadau yn rhedeg yn ddidrafferth.
  • Goruchwylio ac arwain diwrnodau gwaith gwirfoddol, yn cynnwys trefnu i ddod ag offer, deunyddiau a chelfi i’r safle.
  • Asesu gwirfoddolwyr sy’n cwblhau hyfforddiant achrededig.
  • Datblygu a gweithredu gweithgarwch rheoli coetir yn Tŷ Hyll, gan gydweithio â gwirfoddolwyr ac arbenigwyr lleol.
  • Arwain y gwaith gwirfoddol ymarferol yn Tŷ Hyll
  • Cynnal cofnodion Iechyd a Diogelwch ac asesiadau o risgiau gweithgareddau
  • Mynd ati i recriwtio gwirfoddolwyr newydd a hyrwyddo aelodaeth o’r Gymdeithas
  • Cynorthwyo ein gwirfoddolwyr, gan ymateb i ymholiadau a darparu gwybodaeth
  • Cynnal cofnodion ynghylch gwirfoddolwyr ar gyfer cronfa ddata’r Gymdeithas
  • Cynorthwyo Rheolwr y Prosiect ag agweddau eraill o Waith y Prosiect yn ôl y galw
  • Cynorthwyo ag agweddau eraill o waith y Gymdeithas pan fydd angen hynny

SUT I WNEUD CAIS

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, ffoniwch Mary-Kate Jones (Rheolwr y Prosiect) ar 01286 685498.

Daliwch sylw: gallwn dderbyn ceisiadau a lunnir gan ddefnyddio ein Ffurflen Gais safonol yn unig. Ni ystyrir ceisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng CV.

Dychwelwch y ffurflen – trwy e-bost, yn ddelfrydol – at mary-kate@snowdonia-society.org.uk, neu gallwch ei phostio at:

Mary-Kate Jones, Cymdeithas Eryri, Caban, Brynrefail, Gwynedd, LL55 3NR.

Dyddiad cau: 12:00 hanner dydd25 Medi 2017

Cyfweliadau: 3 Hydref 2017

Caiff ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer eu hysbysu erbyn: 27 Medi 2017

Dyddiad cychwyn arfaethedig: mis Hydref

Comments are closed.