RAW Adventures yn arwain y ffordd unwaith eto!

Mae Kate a Ross Worthington o RAW Adventures/Climb Snowdon yn Aelodau Busnes ac yn bartneriaid allweddol yn ystod diwrnodau gwaith Cymdeithas Eryri, yn galluogi ein gwirfoddolwyr i glirio sbwriel a chynnal llwybrau troed prysur yn ddiogel.

Yn ystod blynyddoedd diweddar, maen nhw wedi cyfrannu £1 at Gymdeithas Eryri am bob unigolyn y maen nhw wedi’i dywys i fyny’r Wyddfa.  Mae’r cyfraniad a gafwyd ganddyn nhw eleni, sef £402, yn ddigon i dalu costau trefnu 6 diwrnod o waith gwirfoddol: dros 300 awr o waith gwirfoddol ar yr Wyddfa yn clirio draeniau a cheuffosydd, dadadeiladu carneddau a chasglu sbwriel.

Mae RAW Adventures yn gosod safonau uchel o ran arwain pobl yn gyfrifol yn y mynyddoedd ar yr Wyddfa, ac maent yn arwain y ffordd o ran rhoi rhywbeth yn ôl i Eryri. Diolch yn fawr iawn a RAW Adventures a bob lwc i Kate wrth iddi hi gychwyn ei thymor fel Cadeirydd BMC Cymru!

Comments are closed.