Raw Adventures yn cyfrannu eto!

Mae eu gwasanaeth arweinyddiaeth broffesiynol wedi codi £300!

Climb Snowdon yw gwasanaethau arweinyddiaeth a chynllunio RAW Adventures ar gyfer pobl sy’n dymuno dringo’r Wyddfa. Yn 2016, fe wnaethant dywys 300 o bobl i fyny’r Wyddfa, ac am bob unigolyn y gwnaethant eu tywys, fe wnaethant gyfrannu £1 at Gymdeithas Eryri, sef cyfraniad o £300.

Dyma’r drydedd flwyddyn y mae Climb Snowdon wedi gwneud cyfraniad o’r fath. Dywed Kate Worthington, “Rydym ni’n falch iawn o fod yn cefnogi ac yn cynorthwyo â’r gwaith pwysig a wneir gan Gymdeithas Eryri yn y Parc Cenedlaethol. Rydym ni hefyd yn falch o gael hysbysu ein cleientiaid am y gwaith hwn a’u hannog i barchu a gofalu am fynydd uchaf Cymru.”

Mae RAW Adventures yn Aelod Busnes o Gymdeithas Eryri. Dysgwch sut gall eich busnes gefnogi ein gwaith trwy ddod yn Aelod Busnes.

Comments are closed.