Postcode Lottery yn cefnogi Cymdeithas Eryri

Mae Cymdeithas Eryri wedi cael £10,000 gan Ymddiriedolaeth Postcode Lottery i gefnogi ein prosiect gwirfoddoli: Prosiect Ecosystem Eryri.

Bydd y cyllid hanfodol hwn yn caniatáu i’n gwirfoddolwyr barhau â’u gwaith caled yn clirio rhywogaethau ymledol, cynnal rhai o lwybrau troed pwysicaf Eryri, clirio sbwriel a chynnal cynefinoedd pwysig. Fe wnaiff hefyd ein cynorthwyo i roi rywbeth yn ôl i’n gwirfoddolwyr trwy ein cyfleoedd hyfforddi. Rydym yn gwerthfawrogi gwaith caled, ymroddiad a brwdfrydedd ein gwirfoddolwyr, ac rydym ni’n dymuno annog cymaint o bobl ag y bo modd i roi rhywbeth yn ôl i Eryri.

Dyma Sarah McGuiness, un o’n gwirfoddolwyr rheolaidd, yn egluro ei phrofiadau diweddar o wirfoddoli:

“Mae gwirfoddoli wedi fy helpu i fagu hyder ynof i fy hun a fy ngallu i ddatblygu gyrfa ym maes cadwraeth. Rwyf i wedi gwella sgiliau gwerthfawr megis gwaith tîm a chyfathrebu. Mae gwirfoddoli yn fy nghynorthwyo i gyflawni fy nodau gyrfa, ond mae’n weithgarwch hamdden gwych hefyd. Mae gallu cyfranogi mewn gweithgareddau awyr agored, ynghanol tirweddau hyfryd, a rhoi rhywbeth yn ôl i’r amgylchedd ar yr un pryd, yn brofiad gwych.”

Diolch o galon i gyfranogwyr y People’s Postcode Lottery am gefnogi ein gwaith a helpu gwirfoddolwyr i sicrhau fod Eryri yn lle arbennig.

 

 

Comments are closed.