1967 – 2017: yn edrych ar ôl Eryri ers 50 mlynedd
2017 yw blwyddyn hanner can mlwyddiant Cymdeithas Hwn.
Diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth dros y blynyddoedd.
I ddathlu’r pen-blwydd pwysig hwn rydym ni wedi trefnu llu o ddigwyddiadau arbennig a gynhelir trwy gydol y flwyddyn. Cofiwch gyfranogi!
Dyma ychydig o ddigwyddiadau arbennig 2017:
- Lansio uned achrededig ‘Sgiliau Cadwraeth Ymarferol’ ar gyfer gwirfoddolwyr.
- Picnic dathlu ar 10 Mehefin – dyddiad cyfarfod cyntaf Cymdeithas Eryri yn 1967. Oeddech chi yno? Gadewch i ni wybod ac fe wnawn ni ychwanegu eich enw at restr y bobl bwysig!
- Arddangosfa hanner canmlwyddiant Cymdeithas Eryri; ein gorffennol, ein presennol a’n dyfodol, yn eglwys Santes Julitta a mannau eraill.
- Wythnos gwirfoddolwyr – 5 – 9 Mehefin
- Wythnos ar Ynys Enlli i aelodau Cymdeithas Eryri – 1 – 8 Gorffennaf
- Helpwch ni i osod nodwyr llwybrau rhan o Lwybr Llechi 85 milltir Eryri – bydd cyfleoedd i wirfoddoli ar gael yng Ngorffennaf/Awst.
- ‘Gwnewch Wahaniaeth’ – digwyddiad mawreddog i wirfoddolwyr – 29 & 30 Medi. Deuddydd o dasgau cadwraeth amrywiol. Cwmni da, tirwedd hardd, bwys blasus a chyfle i roi rhywbeth yn ôl i Eryri.
- Bydd Iolo Williams yn siarad yn ystod penwythnos ein Cynhadledd a’r CCB – 14 & 15 Hydref
- Digonedd o deithiau cerdded, sgyrsiau, hyfforddiant a digwyddiadau i wirfoddolwyr trwy gydol y flwyddyn.