O dan bwysau: mae angen deall Parciau Cenedlaethol, nid eu tanseilio

snowdon-litter-pickers

Nid oes yr un awdurdod lleol arall yng Nghymru’n wynebu toriadau ar y raddfa sy’n wynebu’r tri Pharc

Po fwyaf gwledig yr awdurdod, y gwaethaf y toriadau, ac nid oes unman yn fwy gwledig na’r Parciau Cenedlaethol. I Eryri, ar ôl toriadau o 14% dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bydd cyllideb 2016/17 yn cael ei dorri o 5% ychwanegol, sydd deg gwaith y lefel sy’n wynebu Caerdydd.

Mae’n siomedig gorfod cymharu ein sefyllfa gyda’r un dros y ffin. Yn Lloegr mae cyllidebau Parciau Cenedlaethol yn cael eu gwarchod dros y pedair blynedd nesaf gyda chynnydd blynyddol o 1.2% ac arian ychwanegol tuag at gostau estyniad newydd y Lakes-Dales. Os yw Llywodraeth San Steffan dros gynildeb a dros Barciau Cenedlaethol, beth mae hynny’n ei ddweud wrthym am Gaerdydd? Mae Parciau Cenedlaethol Cymru’n wynebu mwy o doriadau nag unrhyw sector arall, a gellir dehongli hyn fel tystiolaeth mai’r nod, er nad yw’n cael ei ddatgan yn gyhoeddus, yw cael gwared â system Parciau Cenedlaethol yr ydym yn gyfarwydd â hi.

Carl Sargeant yn cadw adolygiad Marsden yn ol

Yng Nghymru mae pwysigrwydd ein Parciau Cenedlaethol wedi ei gymeradwyo gan ddau adolygiad swyddogol yn y ddwy flynedd ddiwethaf – Comisiwn Williams ar Wasanaethau Cyhoeddus, ac Adolygiad Tirluniau Dynodedig Cymru, a arweiniwyd gan yr Athro Marsden.

Pan gyhoeddwyd adroddiad Cam Dau fe’i cadwyd gan y Gweinidog am fisoedd lawer cyn iddo osod proses newydd yn ei le o’r enw Tirluniau’r Dyfodol yng Nghymru. Yn ôl y sawl sy’n cymryd rhan ynddo, mae rhaglen Tirluniau’r Dyfodol yng Nghymru yn llanastr llwyr. Mae’n anodd dweud a yw’n gynnig i anwybyddu adroddiad Marsden, neu’n rhywbeth arall mwy llechwraidd.

Gweinidog dros Cyfoeth Naturiol yn creu gryn fygythiad i Barciau Cenedlaethol Cymru.

Yn groes i gyngor Pwyllgor Amgylcheddol a Chynaladwyedd y llywodraeth ei hun, ychwanegodd y Gweinidog dros Adnoddau Naturiol newid i’r ddeddf yn grymuso’r Cynulliad i ddileu pwerau cynllunio Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Pwerau cynllunio yw’r unig bethau sy’n amddiffyn ein Parciau rhag datblygiad anaddas a niweidiol. Gyda’r un symudiad hwn, creodd y Gweinidog gryn fygythiad i Barciau Cenedlaethol Cymru.

Ein pryder yw bod gennym lywodraeth sy’n llawenhau ac eto’n cael eu byddaru gan newid, sy’n deall anghenion diwydiant ond sy’n brwydro i ddeall anghenion pobl a’r mannau sy’n bwysig iddyn nhw.

Ymateb Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri o dan pwysau

Yn ein gwaith gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri rydym yn falch o weld egni’r staff wrth ddatblygu projectau newydd hyd yn oed wrth i adnoddau grebachu. Ymysg enghreifftiau presennol mae menter Awyr Dywyll, datblygiad Yr Ysgwrn, Partneriaeth Eryri, a phroject pwysig ar dreftadaeth defnydd tir a thirwedd y Carneddau. Ar y ddaear felly, mae’n ymddangos bod ein Parc Cenedlaethol yn darparu mwy am lai, wrth hefyd sicrhau cynnydd o ran cynaladwyedd ariannol ei weithgareddau. Mae hyn yn ymddangos yn bositif – corff cyhoeddus sy’n fwy darbodus a mwy effeithiol. Y broblem yw bod y llaw sy’n dal gwydr hanner llawn y Parc Cenedlaethol yn raddol wasgu. Y risg yw y bydd y gwydr yn torri’n deilchion o dan fwy o bwysau, gyda chanlyniadau erchyll.

I’r gad

Ledled Cymru mae’r trydydd sector yn ailgrwpio, gan ddod â chadwraeth byd natur a thirlun ynghyd, efo twristiaeth a hamdden awyr agored. Mae gennym neges i weision sifil Caerdydd, i Weinidogion, i arweinyddiaeth CNC, ac i’r darpar AC a fydd yn gofyn am eich pleidlais chi ym mis Mai: ein dymuniad yw gweld Parciau Cenedlaethol yn cael eu cynnal a’u gwarchod yn briodol yn ogystal â chael yr adnoddau hanfodol.

Mae Parciau Cenedlaethol yn enghraifft dda o hen syniad sy’n gweithio. Mae Parciau Cenedlaethol yn enghreifftiau byw o reolaeth adnoddau naturiol a darpariaeth ffyniant cydweithredol. Rydym yn gwahodd Llywodraeth Cymru i ddysgu o’r gorffennol ac ymuno â ni yn yr ymgyrch i achub ein gwasanaeth iechyd awyr agored.

 

Comments are closed.