Trem yn ôl ar fis Mai

Fe wnaeth ein gwirfoddolwyr weithio’n galed iawn trwy gydol mis Mai, gan gwblhau ymhell dros 400 awr o waith!  Daeth myfyrwyr o Goleg Capel Manor atom ni am 3 diwrnod, ac fe wnaethant weithio bron iawn 300 awr i warchod ein Parc Cenedlaethol arbennig! Yn ystod mis Mai, fe wnaeth gwirfoddolwyr:

  • Slate trailGlirio Rhododendron
  • Gweithio ar lwybrau troed Eryri
  • Rheoli tiroedd
  • Cynnal arolygon o adar a dyfrgwn
  • Garddio er lles bywyd gwyllt

Yn ogystal â’u gwaith ymarferol, fe wnaethant hefyd fwynhau taith dywysedig trwy’r coed gydag ecolegydd a dysgu sut i adnabod coed cynhenid yn ystod ein digwyddiad hyfforddiant ynghylch Adnabod Coed Cynhenid.  Roedd Mai yn fis prysur iawn a hoffem ddiolch o galon i’n holl bartneriaid a’n gwirfoddolwyr am eu gwaith gwych!

Mae angen eich cymorth ar Eryri – os ydych chi’n awyddus i gyfranogi, beth am ymuno â ni yn yr heulwen i gyfranogi yn rhai o’n diwrnodau gwaith a’n digwyddiadau yn ystod yr haf?

 

Comments are closed.