Fe allwch chi helpu Eryri drwy wirfoddoli

Casglu sbwriel, Medi 2018

Mae Cymdeithas Eryri yn trefnu dyddiau cadwraeth rheolaidd i wirfoddolwyr i helpu i wella a chynnal harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ein gwirfoddolwyr yn mwynhau rhaglen reolaidd o orchwylion cadwraeth sy’n digwydd be bynnag fo’r tywydd, drwy gydol y flwyddyn.

Os ydych chi’n mwynhau gweithgareddau egnïol megis clirio Rhododendron ponticum a chynnal llwybrau amlwg yr Wyddfa neu wella eich medrau adnabod drwy gynnal arolygon bywyd gwyllt neu ddysgu nodweddion gwahanol gynefinoedd, mae gan ein prosiect rhywbeth i bob un ohonoch.

 

“Heb gefndir yn y maes fy hun, teimlais ei fod ar gael i bawb a dysgais lawer iawn o’r profiad.”

Gallwch wirfoddoli fel unigolyn neu gyda grŵp bob diwrnod gwaith, unwaith y mis neu dim ond unwaith y flwyddyn

Cwblhewch ffurflen cofrestru yma

Cwestiynau?
Ebostiwch Dan neu Owain

 


 

Fe allech chi helpu gyda

  • chlirio rhywogaethau ymledol
  • cynnal llwybrau
  • rheoli cynefinoedd
  • clirio sbwriel

…a llawer mwy!

“O’n i’n meddwl fy mod yn gwybod dipyn am rywogaethau ymledol a’r ffordd y maen nhw’n lledaenu. Fodd bynnag, rydw i wedi dysgu gymaint mwy wrth fynd allan i’r parc a gweithio ar effaith rhywogaethau ymledol a helpu i leihau eu heffaith. Clirio Rhododendon o’n i ar fy niwrnod cyntaf a dysgais lawer iawn am effaith y rhywogaeth ymledol hon.”

Pam gwirfoddoli?

Clirio rhododendron, Medi 2017

  • Crwydro Eryri
  • Cyfarfod ffrindiau hen a newydd
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant achrededig am ddim
  • Cadw’n heini ac yn brysur
  • Sicrhau hyfforddiant perthnasol
  • Darganfod diddordebau newydd
  • Cyfarfod bobl broffesiynol eraill sy’n gweithio yn y sector amgylcheddol
  • Ennill profiad gwerthfawr i’w roi ar eich CV
  • Cael synnwyr o gyflawni rhywbeth
  • Gweithio yn yr awyr agored
  • Bod â rhan mewn gwarchod Eryri

Eryri yw eich parc cenedlaethol chi – dewch i’n helpu I sicrhau ei oroesiad yn yr amseroedd ansicr hyn…  Os na wnewch chi, pwy wnaiff?

“Mae gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, a hynny mewn tirliniau hyfryd, wrth roi rhywbeth yn ôl i’r amgylchedd hwnnw’n wirioneddol wych.”

Beth ydym yn ei ddarparu

  • Offer, menig, hyfforddiant, yswiriant, cit cymorth cyntaf
  • Gellir talu treuliau teithio i ac o safleoedd gwaith ar raddfa o 25c y filltir hyd at uchafswm o £15
  • Trafnidiaeth i rai dyddiau gwaith
  • Cwblheir asesiadau risg llawn cyn pob gweithgaredd ac mae rhywun cymwys mewn cymorth cyntaf yn bresennol bob amser.

Mae gennym nifer fechan o gotiau, trowsus dal dŵr, welingtons ac esgidiau blaen dur sbâr. Os hoffech fenthyg rhai, gadewch i ni wybod cyn y diwrnod gwaith.

Beth sydd angen i chi ei ddod efo chi

  • Dillad gwaith cynnes
  • Dilllad dal dŵr
  • Mae esgidiau cryfion (sef esgidiau cerdded neu esgidiau gyda blaenau dur) yn hanfodol. Nid ydy esgidiau ysgafn yn dderbyniol.
  • Bwyd a diod.

O dan 18

Rydym yn croesawu bobl ifanc ar ein dyddiau i wirfoddolwyr, ond dalier sylw:

  • os ydych chi o dan 16 mae’n rhaid i chi fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • os ydych chi’n 16-17 bydd angen i chi ddangos ffurflen ganiatâd rhieni wedi ei harwyddo cyn y gallwch chi wirfoddoli eich hun.