Gaeaf gwyllt gwych

Snowdonia mountains

Mae ein rhaglen ddigwyddiadau’n cynnig llawer o gyfleoedd ym mis Ionawr a mis Chwefror i fynd allan a mwynhau natur, gyda rhywbeth at ddant pawb.

Gallwch gymryd rhan yn Ngŵyl Adar Gerddi yn Tŷ Hyll ar 31 Ionawr. Mae sgyrsiau’n cynnwys y Twndra yng Nghymru (14 Ionawr) a Daeareg Mynyddoedd (15 Chwefror). Neu os am rywbeth mwy heriol, beth am daith gerdded yng nghwmni Rob Collister, Cadair Idris yn y Gaeaf (24 Chwefror – archebwch yn gynnar i sicrhau lle).

Ar y raglen wirfoddoli mae Prysgoedio Gwern a Chlirio Conwydd yn Abergwyngregyn, Rheoli Rhododendron Melyn ym Mhlas Tan y Bwlch ac Adfer Coetiroedd yng Nghwm Mynach. A dim ond ym mis Ionawr mai’r rheiny!

A pheidiwch ag anghofio Garddio Bywyd Gwyllt bob dydd Llun a Diwrnod Gwaith Coetir yn Nhŷ Hyll. Mae bob tro croeso mawr i wirfoddolwyr newydd!

(Llun: Paul Gannon)

Landscape-Robin (2)

tundra_snowdonia

Yellow Azalea

Abergwyngregyn

Comments are closed.