Cymdeithas Eryri yn cael enillion y tâl am fagiau siopa

Cymdeithas Eryri yn cael enillion y tâl am fagiau siopa

Diolch am ein henwebu ni, Judith!

Rydym yn annog siopwyr i fynd â bagiau gyda hwy bob tro byddant yn mynd i siopa, ond ar yr adegau hynny byddwch chi heb gofio ac yn gorfod prynu un, mae’n dda gwybod fod hyd at 80{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98} o’r tâl a godir arnoch chi yn cael ei gyfrannu at achos da.

Yn y cyfnod 12 mis hyd at Ebrill 2017, mae’r incwm yn sgil gwerthu bagiau siopa mewn canghennau o Waitrose yng Nghymru wedi codi £11,168 anhygoel ar gyfer Cymdeithas Eryri. Defnyddir y gwaith hwn i ddatblygu ein gwaith cadwraeth yn Eryri a hyfforddi pobl ifanc fel rhan o’n huned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol achrededig.

Ail-fuddsoddwch yn lleol yw neges Waitrose Porthaethwy.

Er caiff elusennau cenedlaethol eu henwebu fel arfer, roedd rheolwr y siop, Julie Hughes, yn benderfynol y dylai’r arian a godir yn yr ardal fynd at elusen leol. Fe wnaeth Waitrose Porthaethwy enwebu Cymdeithas Eryri i gael cyfran o’r tâl a godir am fagiau siopa yng Nghymru, gan ddadlau y dylai Gogledd Cymru elwa o enillion y cynllun.

waitrose logo“Fe fyddai’n well gennym ni weld arian a gynhyrchir yn lleol yn aros yn lleol”, meddai Julie Hughes, Rheolwr y Siop. “Felly pa well ffordd orau o’i fuddsoddi na helpu i warchod harddwch Eryri; gallwn weld ei mynyddoedd o faes parcio’r siop yma ym Mhorthaethwy!”.

Mae £11,168 yn cynrychioli 268,000 o fagiau siopa. Mae hynny yn swnio fel llawer o arian, ond byddai’r ffigur dair gwaith yn uwch heb y tâl a godir am fagiau siopa, a byddai sbwriel yn llawer iawn gwaeth!

Os gwelwch yn dda, enwebwch ni yn eich archfarchnad leol.

A ydych chi’n gwybod pwy sy’n cael enillion y tâl a godir am fagiau siopa ble byddwch chi’n siopa? Mae enwebu Cymdeithas Eryri i gael yr enillion hyn yn eich archfarchnad leol yn ffordd hynod effeithiol o’n cefnogi ni.

Yn ddiweddar, cawsom £516 gan y Co-op yn Llanrwst o’r tâl a godir am fagiau siopa, a chyn hynny, cawsom ni £750 gan grwp o siopau Spar yng Ngogledd Cymru.

Gallai gweithred fechan gennych chi wneud gwahaniaeth enfawr i Eryri!

Comments are closed.