A fyddech yn cefnogi talu ernes ar boteli a chaniau diod?

Peiriant ad-dalu

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Chyfeillion y Ddaear Cymru yn ei wneud.

Mewn pâr annisgwyl, mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Chyfeillion y Ddaear Cymru wedi galw’n ddiweddar am gyflwyno system talu ernes orfodol ar gynwysyddion diodydd er mwyn lleihau sbwriel a gwella cyfraddau ailgylchu. Buasai hefyd yn arbed maint sylweddol o allyriadau CO2.

Sbwriel a gwastraffu adnoddau

Yr ydym i gyd yn ymwybodol o’r malltod yn ein trefi a chefn gwlad a achosir gan boteli a chaniau diod a daflwyd, ond maent hefyd yn cynrychioli gwastraff sylweddol o adnoddau ac ynni. Mae dros 3 biliwn o ganiau diod alwminiwm yn cael eu colli neu eu tirlenwi bob blwyddyn yn y DU, sef tua 46,000 tunnell o alwminiwm, yn cynrychioli 750,000MWh o ynni wedi ei wastraffu bob blwyddyn.

Gweler mwy am hyn ar fy Mlog CodiCanArbedCarbon.

Dydy poteli plastig ddim yn ddi-garbon, chwaith. Yn ôl Time for Change, 6kg o CO2fesul kg o blastig yw ôl troed carbon plastig (LDPE neu PET, polyethylen). Nid yw hyn yn llawer llai nag ôl troed carbon ar gyfer alwminiwm ar CO2 9kg y kg, ond mae ailgylchu plastig yn llai effeithlon nag ailgylchu alwminiwm.

Wrth ystyried sbwriel, CO2 ac adnoddau gwerthfawr, mae talu ernes ar gynwysyddion diod yn gwneud synnwyr.

Peiriannau ad-dalu

Yn ôl Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru a chyn Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ffafrio sgîm ernes drwy ‘beiriannau ad-dalu‘. Gallai’r rhain gael eu lleoli mewn siopau mawr a mannau gwerthu megis archfarchnadoedd a gorsafoedd petrol; maent yn gweithio’n dda mewn gwledydd ar draws y byd.

Yn yr Alban, mae Have You Got the Bottle yn ymgyrchu am gyflwyni sgîm ernes ar gynwysyddion diodydd.

Ar ben hynny, mae tua 9/10 o bobl yn cefnogi sgîm ernes ar boteli, yn ôl arolwg ar-lein.

Yn eironig, mae’r alwad hon ar gyfer system ernes yn cyd-daro â diwedd sgîm ernes Irn Bru ar eu poteli gwydr ar ddiwedd 2015. Er gwaethaf gynyddu’r ernes i 30c y botel, mae’r gyfradd cyfnewid wedi gostwng ers cyflwyno cynlluniau ailgylchu ymyl y ffordd.

System ernes ac ailgylchu ymyl y ffordd

Os nad yw 30c ar botel yn ddigon o gymhelliant i ddeiliaid tai ddychwelyd poteli Irn Bru, mae hyn yn awgrymu y byddai dal i fod angen ailgylchu ymyl y ffordd. Ond os gobaith yr ernes yw lleihau sbwriel, naill ai atal pobl rhag gollwng yn y lle cyntaf neu oherwydd pobl eraill yn ei godi er mwyn yr ernes, beth fyddai’n atal yr olaf rhag gwagu’r bocsys ailgylchu glas? Gallai system ernes fodoli ochr yn ochr â chynlluniau ailgylchu ymyl y ffordd?

Ar ôl i gynghorau ledled Cymru a gweddill y DU fuddsoddi’n drwm mewn ailgylchu ymyl y ffordd (pob un yn ei ffordd annibynnol leol eu hunain, ee ‘Cartgylchu’ newydd Cyngor Gwynedd), efallai bydd y llunwyr polisi’n meddwl dwywaith cyn cefnogi system a fyddai’n tanseilio’r buddsoddiad ’na.

Os oes gan rhywun ateb i hwn, swn i’n awyddus iawn i’w glywed.

Strategaeth am y DU cyfan

Yn syniad gwych yn arwynebol, mae edrych yn fanylach yn codi cwestiwn am sut fyddai sgîm felly’n gweithio ochr yn ochr â’r system ailgylchu presennol. Tybed, a yw’r peiriannau ad-dalu’n gweithio’n dda mewn gwledydd sy heb wasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd?

Gyda chymaint o boteli a chaniau’n cael eu taflu, rwyf yn mawr obeithio fod y sgîmau ernes yn cael eu hystyried yn drylwyr. Efallai y dylai hwn fod yn gynllun tymor hir ar gyfer y DU cyfan i weithio tuag at, yn hytrach nag ailddyfeisio blychau aml-liw, biniau gwyrdd a mesurau lleol eraill yn ddiddiwedd.

A pheidiwch ag anghofio cyfrannu neu fy noddi  ar fy her i godi ac ailgylchu 2,000 o ganiau diod, a felly arbed 270kg o CO2. Elw at Gymdeithas Eryri.

Diolch am ddarllen.

Frances
Blog CanSaveCarbon
info@snowdonia-society.org.uk

 


 

Comments are closed.