Byd Hynod Rhostiroedd Uwchdirol a Mynyddig Eryri, nos Iau 14 Ionawr
Sgwrs yng nghwmni John Harold
Canolfan Henblas, Y Bala. 7.30yh
Eglurhad gyda lluniau am blanhigion ac anifeiliaid arbennig y rhostiroedd uwchdirol, yr ecoleg, y prosesau naturiol a’r dylanwadu dynol sy’n llunio’r copaon. Mae’n debyg eich bod chi wedi cerdded trwyddynt neu sathru arnynt. Ond mae’r cynefinoedd hyn yn fwy cymhleth na’r argraff gyntaf a geir. Dewch i ddysgu rhagor am oreosi ar y copaon.
John yw Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri. Gyda gradd mewn ecoleg mae e wedi treulio llawer o amser yn cyflawni arolygon ecolegol, yn cyflwyno rheolaeth cadwraeth ymarferol, ac yn helpu pobl i ddeall a mwynhau’r byd naturiol. Yn 2013 fe ailddarganfododd rywogaeth fynyddig brin o wyfyn ar Elidir Fach.
Lleoliad: Canolfan Henblas, 8 Bro Eryl, Y Bala LL23 7AR Cyfeirnod grid: SH923359
Rhowch yn hael ar y drws
Yn hytrach na phenodi pris ar gyfer rhai o’n digwyddiadau, rydym yn gwahodd cyfraniadau. Cofiwch roi’n hael; bydd eich arian yn mynd tuag at waith Cymdeithas Eryri.
Ymholiadau:
01286 685498
info@snowdonia-society.org.uk