Prysgoedio Gwern

Prysgoedio Gwern

Archebu lle yn hanfodol,

Rydym yn cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru a rheolwyr Gwarchodfa Abergwyngregyn i brysgoedio’r goedlan Gwern yn Abergwyngregyn. Rhennir y goedlan Gwern yn sawl rhan, a chânt eu cylchdroi trwy raglen prysgoedio sy’n para 10 mlynedd.  Diben prysgoedio’r coed Gwern yw hybu twf newydd yn y coetir ac felly helpu i warchod y coed Gwern sy’n tyfu yno. Yn y gorffennol, defnyddiwyd y Gwern gan wneuthurwyr clocsiau a arferai deithio i Abergwyngregyn i gasglu’r Gwern i wneud gwadnau eu clocsiau. Roedd y ffaith fod Gwern yn wydn yn golygu ei fod yn bren perffaith i’w ddefnyddio, yn enwedig o dan amgylchiadau gwlyb. Er bod y gwneuthurwyr clogsiau wedi hen ddiflannu, mae’r Gwern yn dal yno, felly dewch i’n helpu i’w gwarchod.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498