Diwrnod Gwaith Cwm Mynach

Ymunwch a ni am ddiwrnod o waith cadwraeth i lawn yng Nghwm Mynach

Mae Cwm Mynach yn ddyffryn cudd yn swatio ar lethrau’r mynyddoedd Rhinog. Ar ȏl yr Ail Rhyfel Byd, cafwyd llawer o’r tir ei blannu gyda coed conwydd masnachol ond ers 2010, mae Coed Cadw wedi bod yn gweithio i adfer y coedtir mil erw yn goetir llydanddail brodorol. Ym mis Chwefror 2014, achoswyd gwyntoedd a rym corwynt, ddifrod sylweddol mewn rhai rhannau o’r cnwd Sbriws Sitca, gan gynnwys rhannau o’r safle coetir hynafol. Unwaith y bydd y coed a syrthwyd wedi eu glirio, mae angen i ni ail sefydlu canopi llydanddail cyn gyted a phosib er mwyn sicrhau gweddillion y coetir hynafol a gwella cysylltedd cynefinoedd ar hyd ymyl yr afon.

Croeso i bawb! Cysylltwch â Bethan unai drwy ebôst ar bethan@snowdonia-society.org.uk neu rhowch alwad i’r swyddfa ar 01286 685498.

Mi fydd llefydd ar gael ar gyfer cludiant am ddim o Fangor a Chaernarfon, gadewch i mi wybod os bod diddordeb gyda chi!