Wynebu’r Dyfodol: Cynhadledd a CBC Cymdeithas Eryri 2017

Wynebu’r Dyfodol: Cynhadledd a CBC Cymdeithas Eryri 2017

Ymunwch â ni i gyfranogi yn y gynhadledd amserol a phwysig hon ar benwythnos 13-15 Hydref 2017 ym Mhlas Tan y Bwlch, yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.  I weld rhaglen drafft y penwythnos, cliciwch yma. 

Daliwch sylw: mae nifer y llefydd sydd ar gael yn gyfyngedig, a derbynnir archebion ar sail ‘cyntaf i’r felin’ gan aelodau Cymdeithas Eryri.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prynu Pecyn Penwythnos Llawn ar gyfer pob gweithgaredd, bwyd a llety am y penwythnos cyfan – o ddydd Gwener i ddydd Sul – e-bostiwch Claire: claire@snowdonia-society.org.uk

I gofrestru am elfennau ar wahân (e.e Dydd Sadwrn yn unig neu un noson o lety), dilynnwch y camau isod:

Cam 1:  Archebwch le yn y CBC a’r Gynhadledd, a bwyd & gweithgareddau y penwythnos

Cofrestrwch ar-lein i gael lle yn y Gynhadledd a gweithgarwch cysylltiedig yma gan ddefnyddio’r cyfrinair canlynol: CESS2017

Cam 2:  Archebwch le i aros ym Mhlas Tan y Bwlch:

Rhaid i lety ym Mhlas Tan y Blwch gael ei archebu ar wahân trwy gysylltu â Claire, ein Cydlynydd Digwyddiadau.

Ceir amrywiaeth o ystafelloedd ym Mhlas Tan y Bwlch, a gellir eu cynnig fel ystafelloedd sengl/i ddau/dwbl/i nifer o bobl (hyd at bump mewn un ystafell).  Mae’r ystafelloedd wedi’u dodrefnu’n gyfforddus ac wedi’u carpedu’n llawn, ac mae ganddynt wres canolog, basnau ymolchi a socedi i ddefnyddio eillwyr trydan.  Mae cyfleusterau en-suite ar gael mewn 25 ystafell, ac mae toiledau, cawodydd ac ystafelloedd ymolchi wrth ymyl yr ystafelloedd eraill.

Lleolir tair o’r ystafelloedd gwely en-suite ar y llawer gwaelod, ac maent yn cynnig mynediad rhwydd; mae un yn cynnwys ystafell ymolchi sydd wedi’i chynllunio’n arbennig i’w defnyddio gan westeion mewn cadair olwyn.  Nodwch a oes arnoch chi angen yr ystafell hon.

Archebwch nawr: 
I archebu lle i aros ym Mhlas Tan y Bwlch am y penwythnos, e-bostiwch yr wybodaeth ganlynol at Claire:

  • Pryd fyddwch chi’n cyrraedd
  • Pryd fyddwch chi’n gadael
  • Nifer y gwesteion
  • Math o ystafell (sengl/dwbl/i ddau)
  • Ystafell ymolchi (en-suite/a rennir)
  • Unrhyw ofynion arbennig

Daliwch sylw: dyrennir yr ystafelloedd i westeion ar sail ‘cyntaf i’r felin’, ac mae taliad trwy drosglwyddiad ar-lein neu siec o fewn 7 diwrnod yn ofynnol er mwyn cadarnhau eich archeb. Os caiff archebion eu canslo hyd at wythnos cyn y digwyddiad, ad-delir y gost yn llawn. Ni fyddwn yn gallu ad-dalu unrhyw archebion wedi hanner nos ar ddydd Gwener 6 Hydref.

Rhestr o brisiau’r llety:  

price list cymPecyn Penwythnos Llawn:

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prynu Pecyn Penwythnos Llawn ar gyfer y digwyddiad (yn cynnwys llety G&B ym Mhlas Tan y Bwlch ar y Nos Wener a’r Nos Sadwrn, yr holl brydau bwyd o’r swper ar y Nos Wener hyd at ginio ar y Dydd Sul, a chyfle i gyfranogi yn holl elfennau rhaglen y penwythnos), e-bostiwch Claire: claire@snowdonia-society.org.uk

Prisiau Pecyn Penwythnos Llawn:

price list FDP cym

Os oes gennych unrhyw ymholiad, ffoniwch Claire ar 01286 685498.