Cyfeiriannu yn y mynyddoedd

Sul 22 Tachwedd, Llanberis

Sesiwn hyfforddiant trwy’r dydd yn y mynyddoedd dan arweiniad Alun Pugh, yn dysgu sgiliau cwmpawd, cyflymdra cerdded, llywyo mewn tywydd mynydd drwg, ac ati. Lefel sylfaenol hyd at ganolradd.

Yn dilyn sgwrs ragarweiniol, bydd Alun yn mynd â’r grŵp allan i ymarfer sgiliau llywio ar y mynyddoedd uwchben Llanberis. Arweinydd dwyieithog.

Aelod £10; ddim yn aelod £20.

Archebu lle’n hanfodol:

 01286 685498
info@snowdonia-society.org.uk