Cwrs cadw gwenyn i ddechreuwyr

Cwch gwenyn

Yn rhad ac am ddim i wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri

Ymunwch â ni i gymryd rhan mewn Cwrs Cadw Gwenyn dau ddiwrnod sydd wedi’i anelu at bobl sydd â diddordeb mewn cychwyn cadw gwenyn neu sy’n dymuno dysgu rhagor am wenyn.

Arweinir y cwrs gan wenynwr hynod brofiadol, a bydd yn trafod cefndir cadw gwenyn, elfennau cadw gwenyn, adeiladu a lleoli cychod gwenyn, rheoli gwenyn, lle gallwch gael gwenyn ac offer a phwysigrwydd gwenyn yn yr amgylchedd. Dilynir hyn gan sesiwn ymarferol gyda’r gwenyn yn ystod y prynhawn. Bydd arnoch angen beiro, llyfr nodiadau, menig tebyg i rai golchi llestri, esgidiau addas (bydd welingtons yn ddelfrydol) a lluniaeth. Bydd y cwrs yn rhad ac am ddim i Wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri.

Rhaid archebu lle.

Cysylltwch â Bethan i archebu lle ac i gael cyfarwyddiadau a rhagor o fanylion:
bethan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498

Ddim yn wirfoddolwr? Dim problem! Cysylltwch os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch sut i gyfranogi!