Yng nghwmni Fiona Collins o amgylch coetir hudolus Tŷ Hyll
Dewch i ddeffro eich meddwl creadigol trwy ymuno â ni ar daith dywysedig o amgylch coetir hudolus Tŷ Hyll lle bydd Fiona Collins, chwedleuwraig broffesiynol, yn adrodd chwedlau a hanesion lleol megis ‘Tri Anifail Hynaf y Byd’ a diflaniad rhyfedd yr afanc enfawr oedd yn trigo yn Afon Llugwy ar un adeg.
Bydd dwy daith gerdded dywysedig, a bydd y ddwy ar hyd llwybrau troed mewn cyflwr da. Fodd bynnag, mae rhai mannau yn anwastad a bydd y daith gerdded yn y coetir yn cynnwys nifer o rannau byr ond gweddol serth.
Bydd y straeon yn addas i bob oedran. Dewch â dillad ac esgidiau addas yn ogystal â lluniaeth.
Croesawir gwirfoddolwyr newydd a phresennol. Croeso i bawb. Nifer cyfyngedig o lefydd parcio ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gadarnhau eich presenoldeb, cysylltwch â Bethan:
bethan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498