Arolwg o Famaliaid Bychan

Olion mamaliaid bychain

Diwrnod yn Tŷ Hyll yn dysgu sut i adnabod mamaliaid bychain

A ydych erioed wedi meddwl pan anifeiliaid bach blewog sy’n crwydro trwy eich coetir lleol? Ymunwch â’r Arbenigwraig ar Famaliaid Bychan, Rebeca Clews-Roberts, ar ddiwrnod sy’n llawn o weithgareddau megis twneli olion traed, archwilio blychau pathewod ac archwilio pelennau Tylluanod Gwyn! Bydd nifer cyfyngedig o lefydd ar gael yn ystod y diwrnod hwn, felly rhaid archebu/cadarnhau eich presenoldeb ymlaen llaw.

Cofiwch ddod â dillad ac esgidiau addas (esgidiau cadarn a chyfforddus) yn ogystal â chinio a lluniaeth. Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim i wirfoddolwyr.  

 Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael felly rhaid archebu ymlaen llaw. Croesawir gwirfoddolwyr newydd a phresennol.

Cysylltwch â Bethan i archebu lle:
bethan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498