Fel rhan o weithgareddau hanner can mlwyddiant y Gymdeithas, fe wnaeth Cymdeithas Eryri ystyried y dyfodol a buddsoddi yn ei gwirfoddolwyr – trwy redeg uned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol newydd ac achrededig. Mae’r uned yn caniatáu i chi arddangos eich sgiliau cadwraeth ymarferol, sy’n hanfodol mewn llawer o ddisgrifiadau swyddi. Mae’r uned yn ddelfrydol i’r sawl sy’n dymuno dull mwy ffurfio o ddangos prawf o’u profiad ymarferol a’u gwybodaeth. Oherwydd llwyddiant a phoblogrwydd yr uned hon yn ein hanner canfed blwyddyn, byddwn yn parhau i gynnig y cyfle i gyfranogi i’n gwirfoddolwyr.
Trwy ymgymryd â’r uned hon, byddwch yn:
- Gwneud amrywiaeth o dasgau cadwraeth ymarferol mewn amrywiaeth o gynefinoedd;
- Arddangos eich gallu i weithio’n ddiogel, datblygu gwybodaeth am asesu risgiau a phwysigrwydd, er enghraifft, dillad amddiffynnol personol;
- Dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o offer, dulliau o’u cynnal a chadw a sut i’w defnyddio.
Mae’r uned hon yn wych i bobl sydd eisoes yn gwirfoddoli i ni, neu’r sawl sy’n awyddus i gychwyn. Bydd angen oddeutu 30 awr i orffen yr uned, a bydd oddeutu 20-25 o’r oriau hyn yn ddiwrnodau gwaith cadwraeth ymarferol.
Nid oes angen llawer o waith papur, dim ond llenwi cofnod adfyfyriol byr wedi pob diwrnod gwaith, a llenwi 2 asesiad o risgiau yn amlygu 3-4 prif risg safle/tasg. Gellir cwblhau’r uned dros wythnos gwirfoddoli.
Diolch i arian gan Rhodd Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cronfa Partneriaeth Eryri, a Garfield Weston Foundation gallwn gynnig y cylch hyfforddiant hwn am ddim. Fodd bynnag, mae nifer y llefydd yn gyfyngedig, ac os gwnewch chi sicrhau lle, byddwch yn ymrwymo i fynychu wythnos gwifoddoli Mehefin 4-8.
Beth ddywedodd ein gwirfoddolwyr diweddar am eu profiad o gwblhau’r uned.