£868 wedi codi at ein gwaith gan Her Mynydd

Diolch Fabian4!

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i drefnwyr Her Mynydd Dyffryn Conwy 2016, Ellie Salisbury a Adrian Moir o Fabian4 Events, a hefyd i’r gwirfoddolwyr niferus a roddodd o’u hamser mor hael i stiwardio’r ras, coginio, neu ofalu am unrhyw rai y tasgau eraill a wnaeth y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant.

“Llwybr heriol ond yn hardd”

Ac wrth gwrs, mae rhaid i ni ddiolch i’r cystadleuwyr, yn cynnwys Tamsin Fretwell, cydlynydd prosiect Tŷ Hyll …

“Dyma’r tro cyntaf i mi gymryd rhan yn Her Mynydd Dyffryn Conwy, ond ddim yr olaf! Yr oedd y digwyddiad mor gyfeillgar ac fel rhedwr cefais y llwybr yn heriol ond yn hardd. Cytunodd ffrind i wneud yr elfen beicio mynydd; oherwydd nad oeddem yn nabod caiacwyr, ddoth Ellie Salisbury, trefnydd y digwyddiad, o hyd i gaiaciwr i gwblhau ein tîm.

“Cafodd llawer o’r caiacwyr trafferth gyda broc môr; yn cynnwys darn o raff aeth yn sownd ar gaiac ein cymer tîm! Doedd dim esgus tebyg gennyf i; es i ar goll ar fy adran, yn colli tua 10 munud ac yn gorffen y tu ôl i bobl yr oeddwn wedi pasio’n gynharach. Yr oedd yr adran beicio mynydd hefyd yn gyffrous iawn; cyrhaeddodd fy nghymer tîm yn suo gyda adrenalin. Cafon ni lawer iawn o hwyl, er bod ni’n bell o ennill! “

Mae’r digwyddiad lleol cyfeillgar hwn ar 18 Medi wedi codi £868 at waith Cymdeithas Eryri.

Darllen yr adroddiad ras llawn – Fabian4 DCMC.  

“Cwrs godigog â threfniadau, technoleg a chyfleusterau bendigedig.” (Alex Pilkington)

Technoleg ras ar-lein Fabian4

Os ydych yn trefnu marathon neu triathlon, peidiwch ag anghofio defnyddio www.fabian4.co.uk ar gyfer eich technoleg mynediad a ras ar-lein!

Photo/Llun: Jess Gould

Comments are closed.