Gweithgaredd codi arian lleol yn llwyddiant diamheuaeth!

Gweithgaredd codi arian lleol yn llwyddiant diamheuaeth!

Y mis diwethaf, fe wnaeth Burman’s Martial Arts gynnal twrnamaint ‘kata’ yn Llanberis i godi arian at Gymdeithas Eryri.

Fe wnaeth plant ac oedolion sy’n aelodau o’r clwb ddangos eu sgiliau i lu o wylwyr y bydd eu cyfraniadau yn cael eu defnyddio i ariannu gwaith Cymdeithas Eryri yn gwarchod Eryri.

Fe wnaeth y trefnydd Karen Durber enwebu Cymdeithas Eryri fel elusen y flwyddyn y clwb ym mis Ionawr. Dywedodd:

“Roedd yn gwneud synnwyr i ni i sicrhau y byddai Cymdeithas Eryri yn elwa o’n digwyddiadau codi arian yn 2018, o gofio fod cymaint o’n haelodau a’n teuluoedd wrth eu bodd ag Eryri ac yn dymuno helpu i’w gwarchod.”

Codwyd cyfanswm o £95 mewn un noson yn unig.  Defnyddir yr arian hwn i ariannu gwaith ymarferol y Gymdeithas gyda gwirfoddolwyr ym mhob cwr o’r Parc Cenedlaethol.

Diolch o galon i Burman’s Martial Arts am yr enwebiad, ac i’r aelodau a’r gwylwyr oedd yn bresennol yn y digwyddiad.


A oes gennych chi syniad i godi arian? Os hoffech chi drefnu digwyddiad i godi arian at Gymdeithas Eryri, cysylltwch â ni.

 info@snowdonia-society.org.uk
 01286 685498

Comments are closed.