Cipolwg ar ein gwaith yn ystod y gaeaf

Cipolwg ar ein gwaith yn ystod y gaeaf

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd yn swyddogol, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r sawl ohonoch chi sydd wedi mentro allan yn ystod tywydd garw misoedd y gaeaf i gyfranogi yn ein diwrnodau gwaith.  Rydych chi’n gwneud gwahaniaeth mawr!

Ers dechrau Ionawr, mae ein gwirfoddolwyr wedi mwynhau amrywiaeth o ddiwrnodau gwaith gwirfoddol sydd wedi cynnwys: Prysgoedio, Codi Ffensys, Gweithgaredd Gwylio Adar yn yr Ardd, Adeiladu Pontydd, Plannu Coed, Clirio Coed Conwydd a Chlirio Rhododendron, i enwi ychydig ohonynt yn unig.

Ym mis Mawrth, fe wnaethom gychwyn ein diwrnodau cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fynd i’r afael â’r broblem o erydu ar ein llwybrau troed gwerthfawr yn uwchdiroedd Eryri.

Ein gweithgaredd cyntaf oedd gweithio ar lwybr hyfryd Watkin, gan fwynhau golygfeydd i gyfeiriad yr Aran.  Bydd llawer yn rhagor o gyfleoedd i gyfranogi yn y digwyddiadau hyn yn ystod y misoedd sy’n dod, oherwydd mae angen cynnal a chadw llwybrau mewn llecynnau hyfryd ledled Eryri.

Os hoffech chi gyfranogi yn y gweithgareddau difyr yn ystod y misoedd sy’n dod, trowch at ein tudalen i wirfoddolwyr i weld beth sydd ar gael.

 

Comments are closed.