Canlyniadau 2017 Glanhau Traethau Prydain, Marine Conservation Society

Ar gyfartaledd yn yr DU, cafwyd 718 eitem o sbwriel eu gasglu dros 100m, mae hyn yn cynydd o 10% yn gymharol i 2016.

Yn ôl yn mis Medi ymunodd ein gwirfoddolwyr â 7,000 o wirfoddolwyr eraill i gymeryd rhan mewn penwythnos glanhau traethau cenedl eang.

Mae gwirfoddolwyr yn wneud job ardderchog – clirio sbwriel o’r copaon, afonydd a thraethau. Ond nid yw hwnna yn ddigonol – mae angen delio efo’r ffynhonell yn ogystal a chanlyniadau’r problem! #BluePlanetChampion

 

Llofnodwch ddeiseb y Gymdeithas Cadwraeth Forol  i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn gofyn iddynt “sefydlu trethi yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar eitemau plastig tafladwy megis cwpannau a chaeadau, gwellt, platiau a chytleri plastig.”

Llofnodwch ddeiseb Cyfeillion y Ddaear i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gofyn iddynt am “gynlluniau newydd i sicrhau lleihad dramatig yng nghyfanswm y plastig sy’n cael ei daflu i’n cefnforoedd.

Canlyniadau 2017 Glanhau Traethau Prydain, Marine Conservation Society

Fel rhan o’r diwrnod roedd gofyn i pob grwp gyflawni arolwg dros 100m i gynrychioli eu traeth (roedd grwp Cymdeithas Eryri ar draeth Harlech). Mae’r MCS wedi casglu’r data gan pob grwp ac wedi cyhoeddi’r adroddiad isod:

Canlyniadau 2017 Glanhau Traethau Prydain, Marine Conservation Society

Diolch yn fawr iawn i pawb a gymerodd rhan. Rydym yn edrych ymlaen i weld chi gyd eto yn 2018.

Comments are closed.