Breese Adventures yn ymaelodi fel Aelod Busnes

Breese Adventures yn ymaelodi fel Aelod Busnes

Mae busnes lleol arall wedi ymuno â Chymdeithas Eryri yn ystod blwyddyn ei hanner canmlwyddiant i gefnogi gwaith y Gymdeithas yn amddiffyn harddwch naturiol y Parc Cenedlaethol yn ystod cyfnod o bwysau cynyddol.  

Mae Breese Adventures o Fetws y Coed yn trefnu anturiaethau wedi’u teilwra, teithiau cerdded tywysedig, a heriau ar gyfer unigolion, grwpiau ac elusennau.  Dywedodd Tracey Breese, sylfaenydd y cwmni:  “Mae cyfrifoldeb i ddiogelu Parc Cenedlaethol Eryri yn fater o bwys mawr i Breese Adventures, ac mae’n bleser gallu cynorthwyo Cymdeithas Eryri trwy ddod yn aelod busnes a thrwy gyfraniadau o’n digwyddiadau.”

Cyfraniad hael

19149428_1803061239709261_901267992873089699_nYn ogystal ag ymuno fel Aelod Busnes, bu Breese Adventures yn ddigon caredig i gyfrannu £250 0 elw eu digwyddiad Her Eryri cyntaf a gynhaliwyd rhwng 30 Mehefin a 2 Gorffennaf eleni.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri John Harold: “Ni ddefnyddiwyd unrhyw ddeunydd plastig untro yn ystod Her Eryri, ac rydym ni’n edrych ymlaen at helpu Breese Adventures i ddatblygu ymagweddau o’r math hyn sy’n ystyriol o’r amgylchedd ble gellir gwneud hynny”. 

Gostyngiad o 10{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98} i aelodau Cymdeithas Eryri

Hoffai Breese Adventures gynnig gostyngiad 10{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98} ar bris ymgeisio yn Her Eryri ar gyfer holl aelodau Cymdeithas Eryri.  E-bostiwch tracey@breeseadventures.co.uk i gael cod cwpon y gostyngiad.


Mae Breese Adventures ar Facebook                   Dilynwch ei stori ar Instagram: snowdonia3days

Comments are closed.