Mae Bethan yn tyfu Tŷ Hyll

Yn ysbrydoli pawb i garu natur Eryri.

Mae’n bleser croesawu Bethan Wynne Jones i dîm Cymdeithas Eryri, fel Swyddog newydd Tŷ Hyll Tyfu. Mae Bethan wedi llunio rhaglen ddifyr o weithgareddau yn Nhŷ Hyll, yn cynnwys Cwrs cadw gwenynArolwg o Famaliaid BychanChwedlau’r CoetirSaffari pryfed cop Helfa Drysor Coed a Gwenyn.

Gweler Digwyddiadau Tŷ Hyll events am restr lwan.

Yn ferch fferm lleol ac yn rhugl yn y Gymraeg, mae Bethan â gradd mewn Gwyddoniaeth Gwlyptir a Chadwraeth. O dan faner Prosiect Ecosystem Eryri, bydd Bethan yn ysbrydoli mwy mwy o bobl i fwynhau cadwraeth, garddio bywyd gwyllt, rheoli coetiroedd ac wrth gwrs, Eryri.

Wedi eich swyno gan Dŷ Hyll?

Mae Bethan wedi llunio rhaglen ddifyr o weithgareddau yn Nhŷ Hyll, gyda chyfleoedd i ddysgu mwy am y lle hudol hwn. Mae na gyfle hefyd i siarad ag ymwelwyr am Dŷ Hyll yn ogystal â gwaith ehangach Cymdeithas Eryri. Os ydych wedi gwirioni ar y lle bach rhyfeddol hwn, a yw’r ardd wenyn, y gwybedog manog, y hanes dirgel, neu jest yr awyrgylch tawel, dewch i ddweud wrth bawb amdanynt!

Dewch yn llu i gynnig help llaw ac i fwynhau!

Cysylltwch â Bethan:
 01286 685498
 bethan@snowdonia-society.org.uk

Neu gweler Digwyddiadau yn Nhŷ Hyll

Rydym yn ddiolchgar i Gyfoeth Naturiol Cymru am ariannu’r rôl hwn.

 

Comments are closed.