Annwyl Gweinidog

Wrth i’r datganiad ynghylch dyfodol tirweddau dynodedig ddynesu, rydym ni’n chwilio am arweinyddiaeth ac ymroddiad.

 

At: Hannah Blythyn AC, Gweinidog yr Amgylchedd

Annwyl Hannah,

Rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at eich datganiad ynghylch y Parciau Cenedlaethol ar y 13eg o Fawrth. Os gwelwch yn dda, helpwch ein Parciau Cenedlaethol i symud i’r cyfeiriad priodol:

ü Dylai cadwraeth gael ei gymeradwyo fel eu diben, a dylai hynny fod yn drech nag unrhyw ddibenion eraill os bydd gwrthdaro na ellir ei osgoi yn digwydd.

ü Dulliau o amddiffyn a sicrhau’r tirweddau, y fioamrywiaeth, y mynediad a’r llesiant heb eu hail rydym ni oll yn eu chwennych.

ü Ymrwymiad i gyllido pum mlynedd fel gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol gynllunio a chyflawni ein dyheadau ar eu cyfer.

Diolch am yr holl waith rydych chi’n ei wneud er budd ein Parciau Cenedlaethol gwych.

Cofion gorau

John

 

Comments are closed.