Mae Maria yn rhedeg 5k i warchod Eryri

Mae Maria Jones wrthi’n hyfforddi ar gyfer ei her bersonol o redeg 5k.Gan obeithio codi £150, mae hi eisoes wedi mwy na dyblu ei tharged, gyda chyfanswm cyfredol o £320! Bydd yr arian a godir yn mynd at waith y Gymdeithas o ddiogelu a gwella Eryri.

Wrth ysgrifennu hwn, mae Maria wedi datgan bod hi wedi cwblhau ei her 5k ar 29 Tachwedd. £335 ydy’r cyfanswm mae hi wedi codi! Llongyfarchaidau a diolch iddi.

 

Medda Maria, “Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, nid wyf yn ffit o gwbl ac nid yn rhedwr! Roeddwn i eisiau gwella’r sefyllfa hyn a nes i benderfynu codi arian at achos da, ar yr un pryd. Rwyf wedi gwirfoddoli ar ddiwrnodau gwaith y Gymdeithas a wedi elwa o’r sgyrsiau addysgol a hyfforddiant cadwraeth. Hoffwn weld y gwaith pwysig hwn yn parhau. Felly, os ydych yn hoffi Eryri, nid yw’n rhy hwyr i gyfrannu! ”

Bydd rhoddion Maria yn mynd at waith ymarferol Cymdeithas Eryri i warchod cynefinoedd a chodi ymwybyddiaeth am faterion amgylcheddol pwysig.

Diolch i Maria a’i holl noddwyr! Ac nid yw’n rhy hwyr i ychwanegu eich rhodd chi. Gallwch gyfrannu fan hyn ar ein gwefan neu ar ein tudalen ar  JustGiving.com

A brysiwch nol i fan hyn i weld pryd mae hi wedi cwblhau ei 5k!

Comments are closed.