![]() |
fffffffffff |
|
Rhagarweiniad
I Mynddoedd
I Coedydd
I Dwr
I Ôl
llaw dyn I
Y Môr |
Pa beth yw Eryri?
|
Eryri - enw atgofus sy'n cyffroi gweledigaethau o fynyddoedd rhamantus, yn frith o chwedlau, tirwedd hardd, anghysbell a dihalog.
Ond
ar fap mae Eryri yn ardal lle mae pobl yn byw a gweithio, gan ddisgwyl,
yn gwbl briodol, yr un safonau byw a'r un cyfleusterau cyswllt â'r
rhai sy'n dod i ddefnyddio Eryri fel man adloniant. Daw
pobl yn eu miloedd i Eryri gan hawlio mynediad dros y tir er mwynhad.
A wyddant, neu a ydynt yn hidio eu bod yn chwarae ar eiddo ac ar yr
hyn sy'n fywoliaeth i rywun arall? A ddylem adeiladu ffyrdd ymwthiol
i'w denu yma? Ond
y mae twristiaid yn dwyn arian a ffyniant i Eryri. Y mae ar bobl Prydain
angen Eryri'n ddihangfa, i geisio adnewyddiad . . . i ganfod heddwch.
Oni ddylent hwythau gael llais yn y modd y caiff ei rheoli? Dichon teimladau fynd yn frwd yn Eryri. A yw pobl yn wir yn ceisio deall eu gilydd? Pwy
sy'n iawn? Pa beth sy'n iawn? Pa beth yw Eryri? A pha newidiadau a datblygiadau
ellir eu goddef yn Eryri os yw i gadw'i hunaniaeth? |
|
Rhagarweiniaid
I Mynddoedd
I Coedydd
I Dwr
I Ôl
llaw dyn I
Y Môr |
Testyn
gan Jenny James, Lluniau gan David Firth, Dan James, Llyfrgell luniau APCE,
Steve Lewis
© Cymdeithas Eryri - Snowdonia Society 1997 - 2005
Elusen Gof. 253231
www.cymdeithas-eryri.org.uk