fffffffffff

Rhagarweiniad I Mynddoedd I Coedydd I Dwr I Ôl llaw dyn I Y Môr
Tirwedd amaethyddol I Traciau a llwybrau I Y her I Cymdeithas Eryri


Tirwedd amaethyddol

Ffermwyr fu gwarcheidwaid y tirwedd erioed, a gall eu gweith gareddau newid cymeriad Ileiniau o dir neu dirweddau cyfain.

Y mae nodweddion penodol sy'n perthyn i ffermio, megis adeiladau, ffyrdd a lonydd ffermydd, cloddiau a ffensys, oll yn effeithio ar y tirlun. Y maent yn fanylion oddi fewn i'r tirlun, ac os oes nifer gormodol ohonynt, y maent yn amharu ar gymeriad y tirwedd ehangach. Ond gall rheolaeth tir newid cymeriad tirwedd: gall hau neu wella tir glas, cemegolion, traenio, neu gynnal gormod o stoc effeithio'n fawr arni. Ni allwn wadu bywoliaeth i'n ffermwyr, ond dylem edrych ar yr economi gwledig fel y mae a pholisiau llywodraeth sy'n cefnogi'r duedd bresennol i droi cefn ar reolaeth draddodiadol y bryniau.

Yr oedd dulliau traddodiadol o ffermio'n cynnal porfeydd cyfoethog mewn cynefinoedd oedd yn hybu adnewyddu amrywiaeth o fflora a ffawna. Cydweithient â'r mynyddoedd er budd yr amaethwr, y cynefinoedd a'r tirwedd. Nid oes gan ffermwyr modern fawr o ddewis ond cynyddu'r nifer o ddefaid ar y mynyddoedd heb yr hen ddulliau bugeilio a oedd yn gwarchod a hybu ecoleg fynyddig ffyniannus.

Rhagarweiniaid I Mynddoedd I Coedydd I Dwr I Ôl llaw dyn I Y Môr
Tirwedd amaethyddol I Traciau a llwybrau I Y her I Cymdeithas Eryri

Testyn gan Jenny James, Lluniau gan David Firth, Dan James, Llyfrgell luniau APCE, Steve Lewis
© Cymdeithas Eryri - Snowdonia Society 1997 - 2005
Elusen Gof. 253231
www.cymdeithas-eryri.org.uk