![]() | |
|---|---|
|
|
|
|
Diweddarwyd y dudalen yma ar 11/02/2005©Cymdeithas Eryri 2008 Elusen Cof: 253231 |
|
|
Ty Hyll
cartref Cymdeithas Eryri
Ty Hyll©J Roberts
Pencadlys Cymdeithas Eryri yw'r 'Ty Hyll' enwog ar yr A5 ger Capel Curig. Achubodd y Gymdeithas y bwthyn adnabyddus hwn rhag adfeilio yn 80au'r ganrif ddiwethaf, ac erbyn hyn mae'n ei ddefnyddio fel swyddfa a thŷ arddangos ar gyfer ymwelwyr. Fel y gwelwch chi, er gwaetha'i enw anghyffredin, mae'n bell o fod yn 'dy hyll'!
Er bod gwreiddiau Ty Hyll wedi eu gorchuddio dan len o ddirgelwch, dywed chwedlau wrthym mai tŷ amrwd ydoedd a adeiladwyd gan ddau frawd ar herw (outlaws). 'Ty Un Nos' ydoedd. Yn ôl cyfraith hynafol, gallai rhywun a adeiladai dŷ rhwng machlud haul a'r wawr, gyda waliau, to, a simne a mwg yn dod allan ohoni, hawlio'r rhyddfraint.
Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, efallai bod gweithwyr ar ffordd newydd Telford a'r bont gerllaw Ty Hyll wedi meddiannu'r bwthyn. Mae'n bosibl eu bod wedi ychwanegu llofft a ffenestri newydd cyn gadael y tŷ pan nad oedd yn ddigon agos i'w gweithle. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, caiff Ty Hyll ei gynnwys yn 'A Tourist Guide to Wales' a'i ddisgrifio'n 'quaint cottage'. Tyfodd y sôn amdano gymaint fel y caiff ymwelwyr eu swyno gan yr hen fwthyn a'i gynnwys dros ganrif yn ddiweddarach.
Prynodd Edward a Lilian Riley Ty Hyll yn 1929 pan oedd Edward yn was stabl yn y Towers gyferbyn (eiddo bryd hynny i farchnatwr cyrc o Lundain). Rhannodd y llawr isaf yn dair ystafell, yn gegin gefn fechan, ystafell fyw a pharlwr, a'r groglofft ar ôl ychwanegu grisiau, yn ddwy loft ac ystafell ymolchi.
Bu'r cwpl yn diddanu cyfeillion a hyd yn oed pobl oedd yn digwydd pasio, yn aml, a daeth Edward, dyn lliwgar a dadleuol, yn adnabyddus fel tipyn o storïwr lleol. Bu farw Lillian yn 1960 ac Edward wedyn blwyddyn yn ddiweddarach. Yn dilyn cyfnod Edward a Lillian Riley fe ddefnyddiwyd y ty fel siop henebion a chaffi, ond yn ystod yr 80au fe'i gadawyd, yn wag ac yn dadfeilio.
Serch hynny, erbyn 1988 roedd y bwthyn yn adfail, a chafodd ei brynu a'i adnewyddu gan y Gymdeithas. Gwnaethpwyd y gwaith adnewyddu'n gariadlon gan Peter Kirby, gŵr sylfaenydd y Gymdeithas, y diweddar Esmé Kirby. Mae'n awr yn adeilad restredig Graddfa II. Mae'r llawr uchaf yn gartref i swyddfeydd y Gymdeithas tra bod gan y llawr gwaelod arddangosfa am waith y Gymdeithas; hefyd mae yma le i werthu nwyddau a darlun o fwthyn Cymreig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd arteffactau a dodrefn eu benthyg gan Amgueddfa Cymru neu gan aelodau a ffrindiau'r Gymdeithas.
Erbyn hyn mae'r 5 erw o ardd a choedwig, a gafodd eu hesgeuluso ar un adeg, yn rhoi cyfle ichi fynd am dro pleserus a diddorol. Mae'r holl waith o drin y gerddi yn syrthio i wirfoddolwyr sy'n cefnogi amcanion y Gymdeithas. Cynlluniwyd y gerddi yn y dull gardd fwthyn i ddenu a chynnal bywyd gwyllt. Gwneir yr holl waith yn unol ag egwyddorion organig.
Derw digoes yw mwyafrif y coed gyda pheth bedw a chyll. Gosodwyd nifer o flychau adar drwyddi draw yn y coed ac mae'r rhain wedi bod yn arbennig o ddeniadol i ditwod a'r gwybedog brith. Darparwyd mathau eraill o gynefin gan waliau cerrig sychion a sypiau o goed a adawyd i bydru. Crëwyd y pwll yn 2003, ar safle hen "chalet", ac mae'r bywyd gwyllt ynddo wedi hen sefydlu erbyn hyn. A chrëwyd llwybr arbennig i'ch cymryd yn hamddenol o'u cwmpas.
Ymweld â Thy Hyll
Dewch i weld y bwthyn anghyffredin a hudolus. "Ty un nos" ydy o yn ôl y sôn, wedi'i adeiladu o gerrig anferth, rhai yn pwyso tunelli. Dewch i ddarganfod ei hanes a pham fod o'n cael ei alw'n "hyll".
Ewch am dro drwy'r goedlan, mwynhewch yr ardd hudolus, neu ymlaciwch yn y llecyn hardd tra bod y plant yn mynd ar hyd y Llwybr Byd Natur.
Mae Ty Hyll yn agored bob diwrnod yr wythnos, o fis Mai i fis Medi. Yr oriau agor yw 9.30am tan 5pm. Tâl mynediad yw £1 yr oedolyn, er caiff plant ac aelodau o Gymdeithas Eryri fynd i mewn yn rhad ac am ddim.
Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans am Dy Hyll yw SH 756 576. Mae ar ochr ogleddol yr A5, tua 3 milltir i'r gorllewin o Fetws-y-coed, a dwy filltir a hanner i'r dwyrain o ganol Capel Curig.
Lluniau ©Cymdeithas Eryri a J Roberts