Datganiad i'r Wasg - Press Release
I'w gyhoeddi ar unwaith
For immediate release
11/02/2008

Cymdeithas Eryri - Snowdonia Society

CYMDEITHAS ERYRI YN PENODI CYFARWYDDWR NEWYDD

 

SNOWDONIA SOCIETY APPOINTS NEW DIRECTOR

 

Penodwyd Alun Pugh yn Gyfarwyddwr newydd Cymdeithas Eryri i ddechrau 3 Mawrth. Mae’r Gymdeithas yn elusen flaenllaw a’i nod yw gwarchod a hyrwyddo Parc Cenedlaethol Eryri.

 

Daw Mr Pugh , 52 oed, ag ugain mlynedd o brofiad mewn rheoli ac addysg uwch i’w ganlyn i’r swydd. Roedd yn Weinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon yn Llywodraeth y Cynulliad rhwng 2003 a 2007. Mae Eryri wedi bod yn agos at ei galon ers yn blentyn ac mae’n aelod o Gymdeithas Eryri ers blynyddoedd.

 

Yn ôl Mr Pugh, “Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn lle arbennig iawn; I’r rhai sy’n gweithio o fewn ei ffiniau ac i’r bobl sy’n ymweld ag yn mwynhau rhinweddau unigryw'r Parc. Mae cyfrifoldeb arnom i warchod Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol fel gall aelodau’r Gymdeithas, 2,600 ohonynt, fod yn falch o record deugain mlynedd y Gymdeithas o drefnu prosiectau gwella’r amgylchfyd ynghyd â gwaith ymgyrchu. Dwi wrth fy modd fod y Gymdeithas wedi gofyn i mi chwarae rôl allweddol yn eu gwaith ar gyfer y dyfodol.”

 

Yn ôl David Firth, Cadeirydd y Gymdeithas, “ Mae i Alun gryfderau fydd yn ddefnyddiol ar gyfer y swydd hon. Mae’n deall yn iawn y materion polisi allweddol sy’n effeithio’r Parc ac mae ganddo brofiad o weithredu mewnol y Llywodraeth a hynny ar lefel uchel. Ond pwysicach na dim yw’r ymrwymiad amlwg a ddangosodd dros y blynyddoedd i Eryri a’i datblygiad yn y dyfodol.”

 

Mae Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru wedi croesawu’r apwyntaid. "Mae Alun yn angerddol ynglŷn â chreu cyfleon i bobl leol gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored ac roedd ei mewnbwn bersonol yn allweddol wrth sicrhau cyllid cychwynnol ar gyfer gwaith y Bartneriaeth. Edrychwn ymlaen at y cyfle i weithio yn agos gyda Alun a'r Gymdeithas dros y misoedd nesaf."  meddai Amanda Davies, Cadeirydd y Bartneriaeth.

 

The Snowdonia Society, the leading charity working to protect and enhance the Snowdonia National Park, has appointed Alun Pugh as its new Director from 3 March.

 

Mr Pugh, 52, brings two decades of experience in further education and management to the post. He was Minister for Culture, Welsh Language and Sport in the Welsh Assembly Government between 2003 and 2007. He has since childhood had a passion for Snowdonia and is a long-time member of the Society.

 

Mr Pugh said, “The Snowdonia National Park is a truly special place; for the people who live and work within its boundaries and for the people who visit to enjoy its unique qualities. We have a responsibility to protect Snowdonia  for future generations and the Society's 2,600 members can be proud of its forty year record of environmental improvement projects and campaigning work. I am delighted that the Society has asked me to play a leading role in its future work.”

 

David Firth, Chair of the Society said “Alun brings many strengths to the post. He fully understands the key policy issues affecting the National Park and he has experience of the inner workings of Government at a high level. But most important is the obvious commitment he has demonstrated over the years to Snowdonia and its future development.”

 

 

The North West Wales Outdoor Partnership has warmly welcomed the appointment. "Alun is passionate about creating opportunities for local people to become involved in outdoor recreation and was instrumental in securing the initial funding for the Outdoor Partnership. We look forward to working closely with Alun and the Society in the future." said Amanda Davies, Chair of the Partnership. 

 

Ar gyfer lluniau cysylltwch Cymdeithas Eryri 

 Please contact the Snowdonia Society for photos 


Am fanylion pellach

cysylltwch â David Firth: 
ffôn: 01766 890367 
 neu  07792 623042 

 

Alun Pugh
 

Mae Alun Pugh wedi byw yng Ngogledd Cymru ers 1992. Yn raddedig mewn Cyllid Busnes, bu’n gweithio fel Pennaeth Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Llandrillo cyn cael ei ethol fel Aelod o’r Cynulliad dros Orllewin Clwyd yn 1999. Bu’n Weinidog Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon rhwng 2003 a 2007. Fel Cyfarwyddwr y Gymdeithas, ni fydd yn dal swydd gyhoeddus, nac yn chwarae rhan mewn gwleidyddiaeth plaid. Fel mynyddwr brwd, mae Mr Pugh wedi bod yn dringo yn yr Alpau, yn Affrica ac ym Mynyddoedd Himalaia yn ogystal â hanner y 284 copa sy’n ffurfio’r “Munros” yn yr Alban.

 

 


For further details

please contact David Firth:
telephone: 01766 890367 or 07792 623042 

Alun Pugh

 

Alun Pugh has lived in North Wales since 1992.   A graduate in Business Finance, he worked as Head of Business Studies at Coleg Llandrillo before becoming Assembly Member for  Clwyd West in 1999. He was Minister of Culture, Welsh Language and Sport from  2003 to May 2007. As Director of the Society, he will hold no public office, nor will he play any part in party politics.  A keen mountaineer, Mr Pugh has climbed in the Alps, in Africa and in the Himalayas as well as half the 284 Scottish "Munros". 

 


Cymdeithas Eryri

Sefydlwyd Cymdeithas Eryri 40  mlynedd yn ôl, a hwn yw’r prif gorff elusennol sy’n gweithio i warchod, i wellhau ac i ddathlu Parc Cenedlaethol Eryri - y tirwedd, y bywyd gwyllt, y dreftadaeth ddiwylliannol a’r cymunedau - er lles y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol.  Mae dros 2600 o aelodau wedi ymrwymo i ymgymryd â’r gwaith arloesol, creadigol hwn.  Crëwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym 1951, mae’n cwmpasu dros 826 o filltiroedd sgwâr ac yn cynnwys amrywiaeth eang o dirwedd mwyaf trawiadol Prydain.


The Snowdonia Society

The Snowdonia Society, founded 40 years ago, is the leading charity working to protect, enhance and celebrate the Snowdonia National Park - its landscape, wildlife, cultural heritage and communities - for the benefit of present and future generations. Over 2600 members are committed to its innovative and imaginative work. Snowdonia National Park, designated in 1951, covers 826 square miles of some of the UK’s most diverse and spectacular scenery.

Mwy o wybodaeth am Gymdeithas Eryri

Mwy o newyddion

Os hoffech chi dderbyn ein datganiadau'n rheolaidd, rhowch wybod!

More information about the Snowdonia Society

More news

If you'd like to receive our press releases regularly, just tell us!