|
Datganiad i'r Wasg - Press Release |
|
|
Seremoni Wobrwyo
Twristiaeth Eryri Werdd 2008 |
Green Snowdonia
Tourism Awards Ceremony 2008 |
|
Bydd busnesau gwyrdd blaengar
Eryri yn casglu ynghyd ar gyfer Seremoni Wobrwyo Twristiaeth Eryri Werdd 2008
am 2 y prynhawn ar ddydd Mawrth 20fed Mai 2008 yng Nghanolfan
Astudiaethau Amgylchedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Plas Tan y Bwlch,
Maentwrog. Gwahoddir busnesau twristiaeth i
ymuno â ni i ddathlu a llongyfarch busnesau lleol sydd ar flaen y gad o ran
gwarchod a gwella amgylchedd unigryw Eryri. Bydd cyflwyniadau gan Caerwyn Roberts (Cadeirydd Awdurdod
Parc Cenedlaethol Eryri) a Wendy Charles-Warner, perchennog Neuadd Hafod
Elwy, prif enillydd Gwobrwyon Twristiaeth Eryri Werdd 2007. Wedi’r sgyrsiau a’r cyflwyniadau,
wrth fwynhau te, teisennau a golygfeydd hardd yng Nghanolfan Gynhadledd ac
Addysg y Stablau, bydd cyfle i sgwrsio gyda chynrychiolwyr cyrff sy’n cynnig
cefnogaeth i’r diwydiant twristiaeth ac i ddarganfod mwy ynglŷn â sut i wneud busnesau’n fwy cynaliadwy. Mae mynediad drwy docyn yn unig ac mae’r
nifer o leoedd yn gyfyngedig..
Mae tocynnau ar gael, yn rhad ac am ddim, i’r cyntaf a wnaiff gais i
Emma Edwards-Jones yn y Tŷ Hyll,
Capel Curig, Conwy, LL24 0DS, ar 01690 720287 neu drwy gyfrwng yr ebost ar twristiaeth@cymdeithas-eryri.org.uk. Noddir Gwobrwyon 2008 gan
Gyngor Sir Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, Awdurdod Parc Cenedlaethol
Eryri, Croeso Cymru, yr Ymddiriedolaeth Garbon, a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Mentr gan Gymdeithas Eryri
yw Project Eryri Werdd a ariennir gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy CAE a
Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Note to press: Press places are also available by booking as above. |
Snowdonia’s trailblazing green
businesses will gather for the Green Snowdonia
Tourism Awards Ceremony 2008 at 2pm on
Tuesday 20th May 2008 at the Snowdonia National Park Authority
Environmental Studies Centre, Plas Tan y Bwlch, Maentwrog. Tourism businesses are invited to
join us to celebrate and congratulate local businesses who are leading the
way in protecting and enhancing the unique environment of Snowdonia. There will be presentations from Cllr
Caerwyn Roberts (Chairman of the Snowdonia National Park Authority) and Wendy
Charles-Warner, owner of Hafod Elwy Hall, overall winner the Green Snowdonia
Tourism Awards 2007. After the talks and presentations,
whilst enjoying tea, cakes and beautiful views in the Stablau Conference and Education Centre, there will be a chance to talk to representatives of
organisations offering support to the tourism industry and find out more
about how to make businesses more sustainable. Entrance is by ticket
only
and places are limited.
Tickets are available, free of charge, on a first come first served
basis. Please contact Emma
Edwards-Jones at Ty Hyll, Capel Curig, Conwy LL24 0DS, Tel. 01690 720287, or
by email on tourism@snowdonia-society.org.uk. The GSTAs 2008 are sponsored
by Gwynedd County Council, Conwy Borough County Council, Snowdonia National
Park Authority, Visit Wales, Carbon Trust, and the Countryside Council for The Green Snowdonia
Project is a Snowdonia Society initiative funded by CAE Sustainable
Development Fund and the Countryside Council for Note to press: Press places are also available by
booking as above. |
|
|
|
Am fanylion pellachcysylltwch â Emma Edwards-Jones: |
For further detailsplease contact Emma Edwards-Jones: |
Cymdeithas EryriSefydlwyd Cymdeithas Eryri 40 mlynedd yn ôl, a hwn yw’r prif gorff elusennol sy’n gweithio i warchod, i wellhau ac i ddathlu Parc Cenedlaethol Eryri - y tirwedd, y bywyd gwyllt, y dreftadaeth ddiwylliannol a’r cymunedau - er lles y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae dros 2600 o aelodau wedi ymrwymo i ymgymryd â’r gwaith arloesol, creadigol hwn. Crëwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym 1951, mae’n cwmpasu dros 826 o filltiroedd sgwâr ac yn cynnwys amrywiaeth eang o dirwedd mwyaf trawiadol Prydain. |
The Snowdonia SocietyThe Snowdonia Society, founded 40 years ago, is the leading
charity working to protect, enhance and celebrate the |
Mwy o wybodaeth am Gymdeithas EryriMwy o newyddionOs hoffech chi dderbyn ein datganiadau'n rheolaidd, rhowch wybod! |
More information about the Snowdonia SocietyMore newsIf you'd like to receive our press releases regularly, just tell us! |